The Threepenny Opera

-

 

Y Stori:

Mewn cymdeithas yn llawn o drachwant a hunanoldeb, mae pwer Macheath yn tyfu. Ar ôl priodi Polly Peachum, merch dyn busnes llechwraidd, mae’r tensiwn yn ffrwydro. Wedi’i fygythio gan eu hundeb ac yn llawn o gynddaredd, mae Mr Peachum yn addo i arestio a chrogi Macheath. Ond pan fo twyll ym mhob man, hyd yn oed o fewn o gyfraith, a yw’n bosib i gonestrwydd ennill?

Gyda geiriau gan Bertolt Brecht, a cherddoriaeth Kurt Weil wedi’i ysbrydoli gan jazz 1920au, mae’r ‘drama â cherddoriaeth’ doniol yma, wedi’i addasu gan Chymrawd CBCDC, Simon Stephens, yn fersiwn modern gwefreiddiol o’r clasur.

 

Gwyliwch Ar-lein

Purchase tickets from Citizen Ticket.
 
MAE PERFFORMIAD GYDA CHAPSIYNAU O THE THREEPENNY OPERA HEFYD AR GAEL, ARCHEBWCH YMA.

 

AM WYBODAETH LAWN AM Y CAST A'R TÎM CREADIGOL, GWELER Y RHAGLEN YMA.

Drama Gyda Cherddoriaeth Yn Seiliedig Ar The Beggar’s Opera gan John Gay

Gan Bertolt Brecht & Kurt Weill 

Addasiad saesneg gan Simon Stephens 

 

Mwy o wybodaeth:

Mae'r cynhyrchiad yma ar gael i wylio ar-lein yn unig rhwng 15 - 28 Gorffennaf. Gallwch wylio’r perfformiad yma ar un ddyfais i bob tocyn yn unig.

Yn cynnwys iaith gref a golygfeydd ar gyfer oedolion a all eich cynhyrfu neu eich tramgwyddo chi.

Cafodd y cynhyrchiad yma ei greu trwy arsylwi cyfyngiadau Covid-19 er mwyn lles a diogelwch y cast a'r criw. Am unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â chanllawiau a rhagofalon, cysylltwch â info@rwcmd.ac.uk os gwelwch yn dda.

Trafferth archebu tocynnau? Darllenwch ein Q&A prynu tocyn yma.