Llŷr Williams: Lluniau mewn Cerddoriaeth 4

-

Prokofiev Visions Fugitives, Op.22 (detholiad)
Tchaikovsky Y Tymhorau, Op.37a (detholiad)
Mussorgsky Darluniau mewn Arddangosfa

Mae Llŷr Williams yn cwblhau ei oriel bersonol o ddelweddau cerddorol gyda theyrnged fawreddog, ddisglair a llawn ing Mussorgsky i gyfaill o arlunydd a fu farw’n rhy ifanc. Ond mae cerddoriaeth Rwsia bob amser yn llawn emosiwn – boed yn gardiau post barddonol Tchaikovsky o gefn gwlad Rwsia, neu gipolwg cyflym Prokofiev i’r dyfodol cerddorol.

Tanysgrifiwch i’n sianel YouTube i sicrhau na fyddech yn colli’r perfformiad!

Lawrlwythwch nodiadau’r rhaglen yma.

Wedi’i recordio’n fyw yn Neuadd Dora Stoutzker ar 8 Hydref 2020.

Ar gael ar YouTube tan Sul 15 Tachwedd.

Danfonwch ‘RWCMD 3’ i 70085 er mwyn rhoi rhodd o £3 i’r Gronfa Caledi Myfyrwyr. Mae neges destun yn costio £3 plws cyfradd un neges safonol. Gallwch gyfrannu hyd at £20.

Gallwch hefyd gyfrannu ar-lein trwy’r botwm isod.

Cyfrannwch Ar-lein