All That I Am

-

 

Y Stori

Gollyngdod sydd ei angen ar Vix a Rob, diod sydd ei angen ar Tugs – ac mae dal angen dweud wrth Titch. Wedi i’w ffrind gyflawni hunanladdiad daw criw o bobl ifanc cwbl wahanol ynghyd i ysgrifennu teyrnged iddo; ond wrth i’r noson ymddatod, dyna wna eu canfyddiadau ohono ac o’i gilydd hefyd. Doniol, difrodus a chathartig, mae All That I Am yn farwnad o obaith i’r hyn sy’n weddill pan nad oes geiriau.

 

Gan: Daf James

Cyfarwyddwr: Rupert Hands

 

Lawrlwytho'r rhaglen ar gyfer y perfformiad hwn yma.

 

Mwy o Wybodaeth

Mae’r cynhyrchiad yma ar gael ar-lein yn unig. Gallwch wylio’r perfformiad yma ar un ddyfais i bob tocyn yn unig.

Yn cynnwys iaith gref a golygfeydd ar gyfer oedolion a all eich cynhyrfu neu eich tramgwyddo chi.

Cafodd y cynhyrchiad yma ei greu trwy arsylwi cyfyngiadau Covid-19 er mwyn lles a diogelwch y cast a’r criw. Am unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â chanllawiau a rhagofalon, cysylltwch â info@rwcmd.ac.uk os gwelwch yn dda.