NEW '23: Flicker

- Performance times: 04:00 yp 09:00 yp
Drama Cwmni Richard Burton NEWYDD '23

“Ni allaf ymddiried yn fy mhen fy hun. Mae fel ei fod yn gweithio yn fy erbyn i”.

Mae ymennydd Jo bob amser yn llawn meddyliau ofnadwy, treisgar a gwyrdroëdig. Ar ôl sesiwn ryw di-nod, mae’n teimlo’n anobeithiol ac ar ei hisaf erioed. A all Jo wynebu dilysrwydd yr hyn sydd yn ei phen cyn iddi golli’r rheini y mae’n eu caru?

Gan fynd â chi i fan cwbl wahanol yn y meddwl, mae’r gomedi dywyll hon yn ymchwilio cymhlethdodau meddwl obsesiynol.

Gan Gabriella Foley

AM WYBODAETH LAWN AM Y CAST A'R TÎM CREADIGOL, GWELER Y RHAGLEN.

Sylwch, gall rhai o berfformiadau Cwmni Richard Burton gynnwys effeithiau strôb neu niwl.

Mae'r sioe hon yn cynnwys themâu sy'n addas oedolion

Gweler yma am gyngor cynnwys.