Y 20au Euraidd: Cerddoriaeth Kurt Weill

Tocynnau

Y 20au Euraidd: Cerddoriaeth Kurt Weill

01:15 yp
Cerddoriaeth Cyngherddau Awr Ginio

Er ei fod fwyaf adnabyddus erbyn hyn am ei weithiau ar gyfer y llwyfan, ac yn arbennig am ei gydweithrediad â Brecht ar y ‘Threepenny Opera’, roedd gwaith cynnar Kurt Weill ar gyfer y neuadd gyngerdd yn dilyn enghreifftiau modernaidd Stravinsky a Schoenberg. Ei goncerto i’r ffidil oedd y cyntaf un i gyfuno unawdydd llinynnol â chorws o offerynnau chwyth. Mae’r gwaith virtuoso gwefreiddiol hwn yn cael ei bartneru â detholiad o ddarnau o’r Threepenny Opera, gan gynnwys y clasur bytholwyrdd hwnnw, Mack the Knife, sy’n dwyn i gof synau a golygfeydd o Berlin y 1920au yn well nag unrhyw un arall.

Kurt Weill Concerto i'r feiolin   

Kurt Weill Little Threepenny Music (Detholiad)

 

Chwyth Siambr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Lucy Gould Feiolin

Cyfarwyddir gan Robert Plane