07:30 yp
Cerddoriaeth
Perfformwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn talu teyrnged gerddorol i gyn aelod o staff y Coleg a chyfansoddwr uchel ei barch, David Harries. Gan gyflwyno detholiad o weithiau unawd a siambr, bydd y perfformwyr yn plethu naratif cerddorol i ddathlu’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd 90 oed iddo.
Mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.