Mae Flora Meszaros newydd raddio ac yn barod i herio'r byd. Hi yw’r gorau yn ei dosbarth ac mae hi’n benderfynol o dorri cwys fel dylunydd ffasiwn. A hithau’n aelod o fenter gydweithredol o ddawnswyr, cerddorion a dylunwyr, mae’r fenyw ifanc eofn hon yn benderfynol o ddod o hyd i waith yn ystod Dirwasgiad Mawr y 1930au. Ond mae Efrog Newydd yn lle cymhleth, a phan mae hi’n syrthio mewn cariad â Harry Toukarian, dylunydd arall ag ymdeimlad cryf o gyfiawnder sy’n brwydro i ennill ei le, mae’n cael ei thynnu rhwng dwy ddelfryd wahanol iawn.
Dyma sioe gerdd sy’n gosod agenda sosialaidd gyda dyngarwch, hiwmor, rhamant a set wych o alawon gan y tîm a ysgrifennodd y caneuon ar gyfer Cabaret a Chicago.
Gan George Abbott & David Thompson
Cerddoriaeth & Geiriau John Kander & Fred Ebb
Cyfarwyddwr Georgie Rankcom
Cyfarwyddwr Cerddorol Barnaby Southgate
Coreograffydd Annie Rose Southall
AM WYBODAETH LAWN AM Y CAST A'R TÎM CREADIGOL, GWELER Y RHAGLEN.