“Mae dawn Lise de la Salle yn un mewn miliwn” ysgrifennodd y cylchgrawn Gramophone, ac mae’r pianydd ysbrydoledig hwn o Ffrainc yr un mor hudolus yn chwarae gwaith Scriabin ag ydyw gyda cherddoriaeth Gershwin. Yn y cyngerdd llawn dychymyg hwn, mae’n ein gwibio drwy bedwar byd cerddorol tra gwahanol, gan ddechrau gyda cheinder Ravel yn Ffrainc a gorffen gyda swing yn America’r oes jazz. Pedwar cyngerdd am bris un!
Ravel Valses nobles et sentimentales
Saint Saëns Étude en forme de Valse
Bartók Romanian Folk Dances
Scriabin Valse, Op.38
Rachmaninov Italian Polka, arr. V. Gryaznov
De Falla Ritual Fire Dance
Ginastera Dansas Argentinas
Piazzolla Libertango
Gershwin When do we dance?
Fats Waller Viper’s Drag
Art Tatum Tea for Two
Gostyngiad o 20% pan fyddwch yn archebu 3 neu ragor o gyngherddau yng Nghyfres Piano Rhyngwladol Steinway