11:00 yb
Anfonwch e-bost i archebu
Drama
Perfformiadau Ysgolion
Cwmni Richard Burton
Gwaed am waed.
Yn dilyn rhyfel cartref filain mae’r Macbeths yn cael eu gwthio tuag at goron yr Alban gan rymoedd tywyll. Nid yw’r stori ddychrynllyd hon am rym a dial ar gyfer y gwangalon.
Byddwch yn barod am wledd i’r llygaid yn ysblander goruwchnaturiol un o weithiau mwyaf poblogaidd Shakespeare, wedi’i chyfarwyddo gan Jonathan Munby.
Gan William Shakespeare
Cyfarwyddwr Jonathan Munby
___
Manteisiwch ar ein tocynnau rhatach ar gyfer grwpiau ysgol ac addysgol:
- Tocynnau pris arbennig o £6 ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton
- Ar gyfer pob sioe, 1 tocyn am ddim i staff am bob 10 myfyriwr
Mae bysys yn gallu hebrwng pobl o flaen yr adeilad. Gofynnwch i ni am ddewisiadau arlwyo.
AM WYBODAETH LAWN AM Y CAST A'R TÎM CREADIGOL, GWELER Y RHAGLEN.
Gweler yma am gyngor cynnwys