01:15 yp
Cerddoriaeth
Cyngherddau Awr Ginio
Dewch i gwrdd â’r gwir gredinwyr - tîm o gerddorion o bob genre ac o bob rhan o’r byd. Dyma’r Manchester Collective a heddiw byddant yn ymuno â Donald Grant a’n chwaraewyr llinynnol rhagorol i archwilio tirweddau cerddorol Ewrop newydd – o seiniau Jonny Greenwood ac Ucheldir yr Alban i gerddoriaeth trydan-acwstig Michael Gordon gyda recordiadau maes gan Chris Watson. Byddant yn siŵr o greu rhywbeth anghyffredin.
Michael Gordon Weather Three
Jonny Greenwood Proven Lands
James MacMillan Memento
Jörg Widmann 180 Beats Per Minute
Tradd. Scottish Set (trefn Donald Grant)
Manchester Collective
Unawdwyr Llinynnau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Arweinydd Donald Grant
Cefnogir gan deulu Biss