Past Event

Hiraeth, Love & Longing - Abel Selaocoe a Sinfonia Cymru

Tocynnau

Hiraeth, Love & Longing - Abel Selaocoe a Sinfonia Cymru

07:30 yp
Cerddoriaeth

Perffaith. Pwerus. Chwalu’r ffiniau. Trydanol. Rhai o’r geiriau a ddefnyddir mewn adolygiadau am berfformiadau seren y soddgrwth, Abel Selaocoe o Dde Affrica. Mewn cydweithrediad newydd gyda cherddorion dawnus Sinfonia Cymru, gallwch ddisgwyl cyfuniad teimladwy o gerddoriaeth wreiddiol Affricanaidd gan Abel, a cherddoriaeth fyrfyfyr gyffrous o driawd Abel – Chesaba – a mwy! Dyma gerddoriaeth i’ch rhyfeddu, gan y dewin cerddorol Abel Selaocoe. Bydd pobl yn siarad am hyn am flynyddoedd i ddod! Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yno!

Perfformiad cyn y cyngerdd gyda Chôr Un Byd, Abel Selaocoe a Chesaba am 6yh yng Nghyntedd Carne