Quatuor Agate

01:15 yp
Cerddoriaeth Cyngherddau Awr Ginio

Bu Brahms yn ymlafnio am flynyddoedd i greu ei Bedwarawd Llinynnol Cyntaf, a’r canlyniad yw angerdd pur: sŵn barddonol stormus artist gwych yn troi emosiwn yn harddwch. Dyma gyfle perffaith i Quatuor Agate – yr ensemble ifanc o Ffrainc sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi ennill clod y beirniaid am eu perfformiadau “dramatig, dadlennol” – arddangos eu doniau. Ond, yn gyntaf, blas o heulwen Môr y Canoldir gan y cyfansoddwr o’r 18fed ganrif, Luigi Boccherini.

Cyflwynir ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Artistiaid Clasurol Ifanc (YCAT)

 

Boccherini Pedwarawd Llinynnol yn G leiaf, Op.32 Rhif.5

Brahms Pedwarawd Llinynnol yn C leiaf, Op.51 Rhif.1