07:30 yp
Cerddoriaeth
Jazz
Mae’r trwmpedwr a’r cyfansoddwr Byron Wallen, sy’n cael ei gydnabod yn eang fel ffigwr arloesol ym myd jazz, wedi teithio’r byd yn perfformio ochr yn ochr â cherddorion mawr megis George Benson, Andrew Hill a Chaka Khan.
Mae ei albwm Portrait: Reflections on Belonging yn archwilio materion o dras, taith ddiasporig a gwreiddiau diwylliannol. Mae elfennau pwysig y felan a grŵf yn cael eu harchwilio a’u hail-ddyfeisio a chaiff ei gerddoriaeth ei hysbrydoli gan ddiwylliannau cyfoes a chynhenid, cerddoriaeth gynnar y Dadeni ac arddulliau Miles Davis, Wayne Shorter a Thelonius Monk.
Byron Wallen trwmped a chregyn
Rob Luft gitâr
Paul Michael bas
Rod Youngs drymiau