-
10:00 yb
Arddangosfeydd
Digwyddiadau am Ddim
Yn 2019 lansiodd Race Council Cymru ei brosiect o’r enw: Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r prosiect yn ymateb yn uniongyrchol i alwad gan Hynafgwyr Cenhedlaeth Windrush a oedd am sicrhau bod etifeddiaeth eu cenhedlaeth yn cael ei chofio a’i chadw ar gyfer y dyfodol. Rhan o freuddwyd cymaint o Hynafgwyr fel Mrs Betty Campbell MBE, oedd rhannu’r straeon hyn er mwyn sicrhau ‘nad yw ein hetifeddiaeth yn cael ei hanghofio.’