Cerddor dall hynod. Teulu sy’n benderfynol o ganfod gwellhad. Yn salonau disglair Fienna y ddeunawfed ganrif mae Maria-Theresia von Paradis yn seren. Pianydd, cyfansoddwr, cerddor teithiol; caiff ei hadnabod fel Y Swynwraig Ddall. Eto i gyd y tu ôl i’r stori ryfeddol hon o lwyddiant, mae grymoedd tywyll ar waith. Opera siambr newydd ei chomisiynu, wedi’i chyfansoddi gan Errollyn Wallen CBE a’i chyfarwyddo gan Jenny Sealey.
Cyfansoddwr Errollyn Walllen CBE
Cyfarwyddwr Jenny Sealey
Libretydd Nicola Werenowska
Cyd-libretydd a Syniad Gwreiddiol Selina Mills
Cyfarwyddwr Cerdd ac Arweinydd Andrea Brown
Bydd pob perfformiad yn integreiddio Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau a disgrifiadau sain yn greadigol.
Comisiynwyd gan The Stables ar gyfer IF: Gŵyl Ryngwladol Milton Keynes. Cynhyrchiad Cwmni Theatr Graeae mewn partneriaeth â Cherddorfa Gyngerdd y BBC a Theatr Curve.