Past Event

Shirley Valentine

Tocynnau

Shirley Valentine

07:30 yp
Drama

 

Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita - ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg.  

Mae Cool Cymru wedi glanio ym Merthyr, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia y Stereophonics - ac alcopops.  

Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol - ac mae’r blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth.

Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl  i Baradwys - a bywyd newydd.  

 

Nodwch, ni fydd pellter cymdeithasol yn y perfformiad hwn

Bydd y perfformiad yma'n cymryd lle trwy arsylwi canllawiau Covid-19 ar gyfer diogelwch y cynulleidfa, perfformwyr a chriw. Darllenwch ein gwybodaeth Cadw Chi'n Ddiogel cyn eich ymweliad i CBCDC, os gwelwch yn dda.