Etudes Montgeroult

01:15 yp |

Pianyddion Coleg Brenhinol Cymru

Mae’r cyfansoddwr Ffrengig Hélène de Montgeroult wedi’i disgrifio fel y ‘ddolen goll rhwng Mozart a Chopin’. Cafodd Montgeroult ei geni i deulu aristocrataidd, goroesodd dri gŵr, fe’i cipiwyd gan filwyr Awstria yn yr Eidal a dianc rhag y gilotîn ym Mharis adeg y chwyldro, ac roedd hefyd yn gyfansoddwr radical yr oedd ei cherddoriaeth flynyddoedd ar y blaen i’r cyfnod ffrwydrol yr oedd yn byw ynddo. Bydd myfyrwyr piano CBCDC yn ein tywys mewn archwiliad 114 o études Montgeroult, gan ddatgelu etifeddiaeth gerddorol gyfoethog a dramatig cyfansoddwr benywaidd y caiff ei phwysigrwydd ond ei gydnabod nawr.

Nodwch bydd y perfformiad yma’n cadw pellter cymdeithasol

Bydd y perfformiad yma'n cymryd lle trwy arsylwi canllawiau Covid-19 ar gyfer diogelwch y cynulleidfa, perfformwyr a chriw. Darllenwch ein gwybodaeth Cadw Chi'n Ddiogel cyn eich ymweliad i CBCDC, os gwelwch yn dda.