Mae'n ddrwg gennym roi gwybod ichi, fod perfformiad Sinfonia Cymru: Trumpet Sensation wedi'i ganslo oherwydd canllawiau newydd COVID-19 Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ledaeniad yr amrywiad Omicron. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Bydd ein tîm swyddfa docynnau mewn cysylltiad â chi yn fuan i drefnu ad-daliad neu gyfnewid. Os oes gennych unrhyw ymholiad, e-bostiwch boxoffice@rwcmd.ac.uk. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer perfformiad arall yn CBCDC yn fuan.
Sinfonia Cymru & Lucienne Renaudin Vary
Yn ddim ond 22 mlwydd oed, mae Lucienne Renaudin Vary eisioes wedi cael gyrfa anhygoel fel trwmpedwraig clasurol a jazz. Wedi ei disgrifio fel ‘trumpet sensation' mae wedi ennill gwobrau am ei dawn ers pan yn ifanc iawn. Mae ei rhaglen gyda Sinfonia Cymru yn cyfuno rhaglen glasurol gyda cherddoriaeth jazz wedi'i ddylanwadu gan strydoedd Ffrainc ac Efrog newydd.
Wagner Siegfried Idyl
Hummel Trumpet Concerto in E flat
Ravel Le Tombeau de Couperin
Ravel Pavane pour une infante défunte
Milhaud Le Boeuf sur le toit
Lowry Shall We Gather at the River
Weill Je ne t'aime pas
Bechet Si tu vois ma mere
Nodwch, ni fydd pellter cymdeithasol yn y perfformiad hwn
Bydd y perfformiad yma'n cymryd lle trwy arsylwi canllawiau Covid-19 ar gyfer diogelwch y cynulleidfa, perfformwyr a chriw. Darllenwch ein gwybodaeth Cadw Chi'n Ddiogel cyn eich ymweliad i CBCDC, os gwelwch yn dda.