Y Penwythnos Mawr: Catherine Milledge & Roger Owens

01:00 yp |

Ravel yn waltsio ar ymyl y dibyn. Saint- Saens yn galw ar ysbryd un o’r meistri mawr. Ac yng ngwlad Pwyl ym meddiant y Natsïaid, mae Witold Lutoslawski yn creu harddwch herfeiddiol disglair i ysbrydoli’r gwrthsafiad. Pan fydd dau bianydd gwych yn cyd-chwarae nid oes terfyn ar y storïau y gallant eu hadrodd: bydd Roger Owens a Catherine Milledge o CBCDC yn lansio’r Penwythnos Mawr yn y modd mwyaf mawreddog posibl.

Lutoslawski Amrywiadau ar thema gan Paganini

Debussy En blanc et noir

Saint-Saens Amrywiadau ar thema gan Beethoven

Ravel La Valse

 

Mae’r Penwythnos Mawr wedi’i gefnogi gan Sefydliad Mosawi

Bydd y perfformiad yma'n cymryd lle trwy arsylwi canllawiau Covid-19 ar gyfer diogelwch y cynulleidfa, perfformwyr a chriw. Darllenwch ein gwybodaeth Cadw Chi'n Ddiogel cyn eich ymweliad i CBCDC, os gwelwch yn dda.