WEDI'I GANSLO: Gabriela Montero

11:00 yb |

Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd Gabriela Montero yn gallu perfformio fel rhan o’n Penwythnos Mawr. Yn ei lle hi, rydyn ni’n falch iawn bod Valentina Lisitsa, un o gerddorion clasurol mwyaf enwog y rhyngrwyd, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng CBCDC.

 

Os oes gennych docynnau i Gabriela Montero, bydd eich docynnau yn ddilys ar gyfer perfformiad Valentina Lisitsa. Os nad ydych am fynychu mwyach, cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau box office i drefnu cyfnewidiad neu ad-daliad.

 

'I mi, mae cerddoriaeth yn gelfyddyd bwrpasol', meddai’r pianydd Gabriela Montero – y pianydd o Feneswela sydd wedi rhoi byrfyfyrio, ac ysbryd creadigrwydd, wrth galon popeth mae’n ei chwarae. Heddiw mae’n archwilio angerdd chwyldroadol cerddoriaeth Rwsia, cyn torri’n rhydd yr unig ffordd y gall: byrfyfyrio cyfeiliant byw i glasur o ffilm fud Charlie Chaplin The Immigrant.

Prokofiev Sarcasms: Pump darn i'r piano & Sonata i'r Piano Rhif.2 yn D leiaf

Rachmaninov Sonata i'r piano Rhif.2

Stravinsky Sonata i'r piano yn F-llonnod leiaf

Montero Sgôr byrfyfyr ar The Immigrant gan Charlie Chaplin