Y Sioe Gelf Wisgiadwy

Amseroedd amrywiol | -

Mercher 26 Chwefror 7.15pm
Iau 27 Chwefror 1pm, 4pm, 7.15pm
Gwener 28 Chwefror 1pm, 4pm, 7.15pm

Mae’r sioe ffasiynau avant-garde hon - un o ddigwyddiadau’r Coleg y mae’r disgwyl mwyaf eiddgar amdano bob blwyddyn - yn cynnwys digonedd o gymeriadau rhyfygus a grëwyd gan ein cynllunwyr theatr o ddeunyddiau sgrap ac wedi’u hailgylchu. Y cyfan wedi’i osod i gerddoriaeth llawn ysbrydoliaeth er mwyn cynhyrchu perfformiad gwisgoedd unigryw o ddawns, golau a sain.

Mwynhewch arddangosfa o’r gwisgoedd yn yr Oriel Linbury o 2 – 26 Mawrth