Gyda rhestr wych o artistiaid a sioeau eleni, rydym wedi cymryd camau ychwanegol i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus ac yn gallu mwynhau ein rhaglen lawn. Darllenwch y wybodaeth isod er mwyn eich cadw chi ac eraill o’ch cwmpas yn ddiogel.
Cyn eich ymweliad:
- Peidiwch ag ymweld â CBCDC os oes gennych symptomau COVID-19
Rhagor o Wybodaeth
Teimlo’n sâl?
Os ydych yn teimlo’n anhwylus neu fod gennych unrhyw symptomau COVID-19, peidiwch â mynychu CBCDC.
Gallwch wirio i weld a oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 yma.
Os ydych yn teimlo’n sâl, e-bostiwch boxoffice@rwcmd.ac.uk. Byddwn yn rhoi ad-daliad i chi am eich tocyn neu’n rhoi credyd i chi ei ddefnyddio ar gyfer perfformiad yn y dyfodol.
Masg Wyneb
Er nad yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i wisgo mwgwd ar gyfer digwyddiadau yn CBCDC, lle bo modd, rydym yn annog masgiau i'ch cadw chi a'n cymuned greadigol yn ddiogel.
Pàs COVID GIG
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid oes angen pas COVID ar gyfer digwyddiadau yn CBCDC.
Cadw Pellter Cymdeithasol
Nid yw cadw pellter cymdeithasol bellach yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer digwyddiadau neu mewn ardaloedd cymunedol.
Mae rhai perfformiadau â phellter cymdeithasol. Cyfeiriwch at dudalen we y digwyddiad ar gyfer y manylion llawn. Mae'n bosib bydd y seddi yn y rhesi o flaen neu tu ôl yn cael ei ddefnyddio. Cyfeiriwch at y cynllun eistedd ar gyfer manylion.
Hylendid
Defnyddiwch ein hylif diheintio dwylo pan fyddwch yn cyrraedd. Bydd gorsafoedd diheintio ar gael ledled yr adeilad.
Archebu Ymlaen Llaw
Gellir archebu tocynnau drwy ein Swyddfa Docynnau. Pan fo hynny’n bosibl, argraffwch eich tocyn gartref neu defnyddiwch e-docyn/ffôn symudol er mwyn lleihau cysylltiad ac osgoi ciwiau.
Efallai y bydd ein cynllun eistedd ychydig yn wahanol i’r hyn yr ydych wedi arfer ag ef, ac efallai na fydd eich seddi arferol ar gael. Cyfeiriwch at y cynlluniau eistedd pan fyddwch yn archebu ar-lein neu sgwrsiwch â’n Swyddfa Docynnau ynglŷn â’r seddi sydd ar gael.
Archebu Di-arian parod
Pan fo hynny’n bosibl bydd CBCDC yn gweithredu fel lleoliad di-arian parod er mwyn lleihau cysylltiad. Os gallwch wneud hynny, defnyddiwch eich cerdyn debyd neu gredyd. Os nad oes gennych gerdyn banc, fe fyddwn yn gallu darparu ar eich cyfer.
Bwyd a Diodydd
Mae ein Café Bar ar agor i ymwelwyr ac yn cynnig amrywiaeth eang o byrbrydau, cacennau a diodydd. Gweler Oriau Agor Y Café Bar.
See It Safely
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi’i gymeradwyo gan See It Safely.
Mae CBCDC wedi cael yr hawl i ddefnyddio nod See It Safely Cymdeithas Theatrau Llundain a Theatrau'r DU. Mae’r nod yn tystio ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau COVID-19 diweddaraf y Llywodraeth a’r diwydiant, er mwyn sicrhau diogelwch ein staff a’n cynulleidfaoedd