Neidio i’r prif gynnwys

Cyngor ar gynnwys

Yn aml, mae cynyrchiadau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn brofiadau dwys ac yn aml yn delio â phynciau a all beri gofid neu drallod i rai aelodau o’r gynulleidfa.

Er ein bod yn rhoi rhybuddion am gynnwys a allai beri gofid neu ysgogi adwaith corfforol, fel tanio gwn, goleuadau strôb, noethni ac iaith gref, rydym hefyd yn ymwybodol bod datgelu gormod o wybodaeth am y plot yn difetha’r golygfeydd pwerus sy’n gwneud profiadau artistig torfol mor gyffrous ac yn procio’r meddwl.

Os ydych chi’n poeni am themâu a allai beri gofid i chi ac yr hoffech fwy o wybodaeth am sioe cyn archebu, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2039 1391 neu anfonwch e-bost atom ar boxoffice@rwcmd.ac.uk.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o’r themâu a archwiliwyd yn ein cynyrchiadau, mae Llinell Gymorth y GIG yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol 24/7: Rhadffôn 0800 132 737 neu www.callhelpline.org.uk


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen