Neidio i’r prif gynnwys

Archebu ar gyfer grŵp neu ysgol

Boed eich bod yn trefnu noson allan gyda theulu a ffrindiau, taith i’ch cydweithwyr neu daith bws ar gyfer eich cymdeithas, rydym yma i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi ddod â pharti o 10 neu fwy o bobl i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae manteision grŵp yn cynnwys

  • Disgownt ar docynnau ar gyfer rhai sioeau CBCDC
    - 10 neu fwy o bobl = 10% o ostyngiad
    - 15 neu fwy o bobl = 15% o ostyngiad
    - 20 neu fwy o bobl = 20% o ostyngiad
  • Telerau talu hyblyg – archebwch nawr, talwch wedyn (yn amodol ar delerau ac amodau)
  • Taflenni a phosteri am ddim i’ch helpu i hyrwyddo’r sioe i’ch grŵp (pan fo hynny’n bosibl)

Mae gostyngiadau ond ar gael i grwpiau o 10 person neu fwy ac i grwpiau sy’n archebu ar gyfer yr un sioe.

Unwaith y bydd archeb yn cael ei gadarnhau a’i dalu, codir prisiau safonol ar unrhyw docynnau ychwanegol.

Ni ellir cynnig gostyngiadau grŵp ar docynnau sydd eisoes yn rhatach, mae hyn yn cynnwys tocynnau Liberty Living, o dan 25 oed am berfformiadau Cwmni Richard Burton, a thocynnau staff a myfyrwyr.

Grwpiau ysgol ac addysgol

Manteisiwch ar ein tocynnau rhatach ar gyfer grwpiau ysgol ac addysgol:

  • Ar gyfer pob sioe, 1 tocyn am ddim i staff am bob 10 myfyriwr
  • Tocynnau £3 ar gyfer Cyngherddau Amser Cinio
  • Tocynnau £5 i’n perfformiad pypedau yn ystod yr haf a’n sioe Nadolig
  • Tocynnau pris arbennig o £6 ar gyfer y rheini o dan 25 oed i’n sioeau Cwmni Richard Burton

Mae bysys yn gallu hebrwng pobl o flaen yr adeilad. Gofynnwch i ni am ddewisiadau arlwyo.


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen