Addewid

Addewid

EU HADDEWID,
EIN HADDEWID,
EICH HADDEWID...

Promise Logo

Nod Addewid yw codi £5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi cynlluniau buddsoddi hollbwysig a fydd yn galluogi’r Coleg i gryfhau ei ddylanwad a chyflawni ei weledigaeth gyffredinol “i ysbrydoli a newid bywydau ac i gysylltu a thrawsnewid cymunedau drwy’r celfyddydau”.

Mae enw’r ymgyrch yn amlygu’r addewid sy’n gynhenid ymhlith pobl ifanc yn ogystal â’n hymrwymiad ni i feithrin talent artistig, annog amrywiaeth a darparu cyfleoedd hyfforddiant i’r rheini sy’n eithriadol ddawnus, waeth beth fo’u cefndir economaidd neu gymdeithasol.

Ein myfyrwyr yw’r cenedlaethau newydd o berfformwyr, ymarferwyr, crewyr a rheolwyr a fydd yn dod ag addewid y celfyddydau i gymdeithas ac addewid Cymru a’r byd. Ychwanegwch eich addunedau chi o gefnogaeth i’r Coleg a gyda’n gilydd byddwn yn tanio eu dychymyg, yn datblygu eu sgiliau, rhoi iddynt eu llwyfannau a’u gosod ar eu llwybrau.

Rydym yn croesawu rhoddion o bob maint a bydd pob rhodd, grant neu nawdd yn ariannu nodau’r Coleg yn uniongyrchol, sy’n cynnwys y canlynol:

  • dyblu nifer yr ysgoloriaethau a godwn a sefydlu Cronfa Bwrsariaeth cwbl newydd tra hefyd yn cynyddu symudedd cymdeithasol i’r celfyddydau drwy fenter “llwybrau” newydd
  • ehangu faint o bobl sy’n gallu ymgysylltu â ni drwy ein rhaglen berfformio ddigidol, teithiau ehangach dan arweiniad myfyrwyr yng Nghymru yn ogystal â chydweithrediadau artistig datblygedig a phartneriaethau newydd ar draws Cymru ac yn rhyngwladol
  • darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru brofi’r celfyddydau drwy ail-ganolbwyntio ein hyfforddiant arbenigol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, cefnogi’r cwricwlwm celfyddydau mynegiannol newydd yn ysgolion y wlad a hyfforddi ein myfyrwyr i fod yn athrawon a mentoriaid
  • buddsoddi’n sylweddol ym meysydd Opera a Theatr Gerddorol fel y ddwy ffurf ar y celfyddydau sy’n dwyn Cerddoriaeth a Drama agosaf at ei gilydd
  • comisiynu mwy o weithiau newydd ym meysydd cerddoriaeth a drama a buddsoddi mewn prosiectau a arweinir gan fyfyrwyr sy’n annog entrepreneuriaeth greadigol a chymdeithasol
  • archwilio’r potensial ar gyfer cyfnod preswyl sefydledig yng nghanol dinas Caerdydd, gan wneud defnydd o wagle nas defnyddir, creu lle ar gyfer cyrsiau newydd a chynnig perfformiadau a chyfranogiad cyhoeddus, yn arbennig ar gyfer plant oed ysgol

Mae’n hawdd gwneud Eich Addewid – dyma rai o’r ffyrdd y gallwch gyfrannu a gwneud gwahaniaeth:

Cyfrannu i Addewid Nawr

Swm i’w Cyfrannu £

Aeth rhywbeth o’i le. Cysylltwch â development@rwcmd.ac.uk.

 

Badge - Registered with Fundraising Regulator