Rydych angen eich cerdyn adnabod CBCDC i fenthyg eitemau ffisegol gan y Llyfrgell. Dylai benthycwyr allanol ddarllen y wybodaeth am ymuno fel aelod.
Caniatâd benthyca
Gall aelodau’r Llyfrgell fenthyg fel a ganlyn:
Benthyciwr | Hawl benthyg | Math o eitem |
---|---|---|
Israddedigion CBCDC | 15 eitem | Unrhyw fath |
Ôl-raddedigion CBCDC | 20 eitem | Unrhyw fath |
Staff CBCDC | 30 eitem | Unrhyw fath |
Staff dros dro CBCDC (e.e. cyfarwyddwyr gwadd) | 8 eitem | Unrhyw fath |
Myfyrwyr y Conservatoire Iau (Blwyddyn 7+) * | 2 eitem | Benthyciadau 3 wythnos neu fenthyciadau wythnos ** |
Israddedigion Cyfatebol * | 2 eitem | Benthyciadau 3 wythnos neu fenthyciadau wythnos ** |
Staff SCONUL Access * ac ôl-raddedigion / aelodau allanol | 5 eitem | Benthyciadau 3 wythnos neu fenthyciadau wythnos ** |
* Gweler rhagor o fanylion ar gategorïau aelodaeth.
** Heb gynnwys CDs, DVDs a deunyddiau cerddoriaeth poblogaidd, gan gynnwys cerddoriaeth ddalen ar gyfer Theatr Gerdd.
Nodwch fod yr holl ddeunyddiau a chyfnodolion sain/gweledol ar fenthyciad tymor byr, felly nid ydynt ar gael i fenthycwyr nad ydynt yn fenthycwyr CBCDC.
Mathau o fenthyciadau
Gellir cadw pob un o’n heitemau am un flwyddyn academaidd ar y tro (heb ddirwyon) os nad oes rhywun arall yn gwneud cais amdanynt. Fodd bynnag, bydd eitemau’n cael eu cyflwyno am gyfnod penodol bob tro a dyma’r dyddiad y dylech ddisgwyl eu dychwelyd oni bai eich bod naill ai wedi eu hadnewyddu eich hun neu wedi derbyn cadarnhad eu bod wedi’u hadnewyddu’n awtomatig. Dyma’r cyfnodau benthyg arferol:
Math o eitem | Cyfnod benthyg |
---|---|
Cerddoriaeth ddalen * | 3 wythnos |
Llyfrau print | 1 wythnos |
Cyfnodolion a chylchgronau | 1 wythnos (cedwir y rhifyn diweddaraf i gyfeirio ato’n unig) |
Sgriptiau dramâu | 1 wythnos |
Cerddoriaeth ddalen ar gyfer Theatr Gerdd a cherddoriaeth boblogaidd ** | 1 wythnos |
CDs a DVDs ** | 1 wythnos |
Setiau cerddorfaol, offerynnau pres a chwythbrennau ** | Ar gael i staff a myfyrwyr arwain CBCDC yn unig |
Cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau arbennig | I gyfeirio atynt yn unig |
* Dim ond dros nos y gellir benthyg rhai eitemau o’n hardal Galw Mawr. Cofiwch roi gwybod i ni os hoffech wneud cais i newid cyfnod benthyg eitem benodol.
** Nid yw’r eitemau hyn ar gael i fenthycwyr allanol.
Gweler ein tudalennau pwnc am ragor o wybodaeth am ein hadnoddau mewn meysydd penodol.
Atal
Os oes £10 neu fwy yn ddyledus gennych neu fod gennych eitem hwyr y mae benthyciwr arall wedi gwneud cais amdani, ni fydd modd i chi fenthyg nac adnewyddu tan y bydd y mater wedi’i ddatrys. Hefyd, gofynnir i fenthycwyr glirio’r holl ddyledion ar ddiwedd pob tymor. Gweler ein tudalen am ddirwyon a ffioedd am ragor o wybodaeth.
Benthyciadau allanol
Rydym yn ystyried pob cais gan lyfrgelloedd eraill i fenthyg ein deunyddiau drwy’r gwasanaeth benthyciadau rhwng llyfrgelloedd. A fyddech cystal â siarad â’ch llyfrgell leol, a fydd angen cysylltu â ni gyda’r holl fanylion, gan gynnwys cod cwsmeriaid y Llyfrgell Brydeinig, manylion dosbarthu a chyswllt.
Dychwelyd
Gweler ein horiau agor am yr amseroedd y gellir dychwelyd eitemau i’r Ddesg Ddosbarthu. Mae gennym fin ar gyfer dychwelyd llyfrau yn Undeb y Myfyrwyr, sy’n cael ei agor ar ôl 9am Llun-Gwener (a chaiff eitemau eu nodi fel rhai sydd wedi eu dychwelyd y diwrnod cynt).
Dalier sylw: gofynnwn i chi ddychwelyd eitemau sydd â sawl rhan iddynt gyda’i gilydd. Bydd yr eitemau hyn yn parhau ar y cyfrif tan y bydd pob rhan wedi’i dychwelyd.
Rydym yn argymell nad ydych yn gadael eitemau heb eu goruchwylio neu yn y Dderbynfa, gan y byddwn yn codi tâl arnoch am unrhyw golled neu ddifrod. Am yr un rheswm, os ydych i ffwrdd o Gaerdydd ac angen dychwelyd eitemau ar frys, rydym yn cynghori i’w hanfon yn y ffordd fwyaf diogel bosibl, a’u pacio’n ofalus. Cofiwch gyfeirio eitemau’n glir ar gyfer y ‘Llyfrgell’ a chynnwys eich enw fel y gallwn wirio eich cyfrif.