Neidio i’r prif gynnwys

Prif Casgliad

A fyddech cystal â chyfeirio at ein tudalennau pwnc am wybodaeth am yr adnoddau sydd gennym ar gyfer eich cwrs. Rydym yn canolbwyntio ar berfformiad ond rydym yn cynnal y meysydd cyffredinol canlynol hefyd:

Cyfeirlyfrau 

Amrywiaeth o adnoddau cyffredinol sy’n bwnc penodol gan gynnwys: llyfryddiaethau, geiriaduron, gwyddoniaduron, cyfeirlyfrau a ffynonellau cyfeirio arbenigol.

Sain/ gweledol 

Mae CDs, recordiau a DVDs yn cefnogi anghenion gwrando a gwylio myfyrwyr cerdd a drama fel ei gilydd. Mae’r casgliad yn cynnwys llawer o recordiau cerddoriaeth glasurol ac mae cod lliw yn nodi operâu, sioeau cerdd, cerddoriaeth boblogaidd, jazz a gweithiau llafar ac mae yna gasgliad o effeithiau sain a deunyddiau ar acenion hefyd. Rydym wrthi’n diweddaru’r adnoddau sydd gennym mewn fformatau hŷn ond mae yna gyfarpar yn y Llyfrgell sy’n eich galluogi i wylio neu wrando ar yr eitemau hyn. A fyddech cystal â chyfeirio at dudalennau defnyddio’r Llyfrgell am ragor o wybodaeth am ddefnyddio’r deunyddiau sain / gweledol sydd yn y Llyfrgell

Cyffredinol 

Yn ogystal â llyfrau ar gerddoriaeth a drama, mae yna gasgliadau bach o lyfrau a chyfeirlyfrau sy’n ymwneud â phynciau perthnasol eraill:

  • Entrepreneuriaeth: llyfrau sy’n darparu gwybodaeth ar ddechrau eich busnes eich hun.
  • Gyrfaoedd: mae testunau a chyfeirlyfrau yn darparu gwybodaeth am gyllid, swyddi, gyrfaoedd ac addysg bellach. Gall y Llyfrgell ddarparu cymorth hefyd ar ymchwil yn y maes hwn.
  • Anableddau: casgliad bach o lyfrau, a chyfnodolion sy’n gysylltiedig â materion anabledd.
  • Dysgu ac addysgu: deunyddiau sy’n gysylltiedig â dysgu ac addysgu gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, e-ddysgu ac asesu.

Adnoddau ar gyfer eich cwrs

Gweler ein tudalennau am adnoddau ar gyfer drama a cherddoriaeth ac i gael trosolwg o’r prif adnoddau, gan gynnwys cronfeydd data a chyfnodolion ar-lein.

Angen unrhyw beth nad oes gennym?

Mae’r Llyfrgell yn prynu deunyddiau newydd yn rheolaidd ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fenthycwyr – gweler y ffurflen archebu yn yr Hyb. Gellir prynu neu fenthyg ceisiadau o lyfrgelloedd eraill drwy’r gwasanaeth benthyciadau rhwng llyfrgelloedd, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael a pha mor addas ydynt ar gyfer ein casgliadau.

Caniatewch o leiaf 28 diwrnod i eitemau newydd gyrraedd a bod yn barod i'w benthyca. Rydym yn archebu gan gyflenwyr penodol i sicrhau'r gwerth gorau i'r Coleg, ac efallai y bydd angen archebu rhai eitemau yn arbennig.

Mae modd awgrymu stoc newydd a gwneud ceisiadau am fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd yma: (defnyddwyr mewnol yn unig)

Polisi rhoddion

Mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar iawn am gynigion o roddion ond yn anffodus ni ellir eu derbyn yn gyffredinol, oherwydd diffyg gofod ac amser staff i’w prosesu. Fodd bynnag, o dro i dro byddwn yn derbyn eitemau o ddiddordeb penodol i’n staff a’n myfyrwyr (fel arfer yn gysylltiedig â pherfformiad).

Nid ydym yn derbyn y canlynol:

  • Rhaglenni theatr
  • Cylchgronau a chyfnodolion print
  • Finyl, tapiau casét neu fideos casét
  • Casgliadau cerddoriaeth ddalen rhydd
  • Eitemau o ansawdd gwael e.e. wedi rhwygo, brwnt, tamp ac ati.
  • Gwerslyfrau hŷn
  • Geiriaduron, gwyddoniaduron neu gyfeirlyfrau aml-gyfrol

Os oes gennych gasgliad yr hoffech ei gynnig i’r Llyfrgell, a fyddech cystal â darparu cymaint o wybodaeth â phosibl:

  • Cynnwys y casgliad – fel y gallwn wirio pa mor berthnasol ydyw
  • Maint y casgliad – fel y gallwn gadarnhau’r gofod i’w gadw

Fel arfer mae’n well anfon y manylion trwy e-bost neu yn y post.

Dalier sylw: os yw eich rhodd yn cael ei dderbyn, rydym yn gwneud hyn ar y sail ein bod yn ychwanegu unrhyw beth perthnasol at ein casgliad ac yna’n gwneud yr eitemau eraill ar gael i’n haelodau staff a’n myfyrwyr (rydym yn gwneud hyn heb godi tâl fel arfer er y gallwn werthu eitemau er mwyn codi arian at y Llyfrgell neu ar gyfer ein Cronfa Caledi Myfyrwyr). Ni allwn gasglu rhoddion fel arfer ac ni allwn ddychwelyd unrhyw beth i chi unwaith y mae wedi’i dderbyn. Byddwn yn gwaredu unrhyw beth na allwn ddod o hyd i ofod ar ei gyfer.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf