Mae llawer o fanteision cysylltiedig ag ymuno â’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr. Ar wahân i’ch helpu chi i ailgysylltu â’ch cyfoedion, rydyn ni’n cynnig amryw o wasanaethau, a nodir isod:
- Cyngor ac arweiniad 1:1 ar yrfaoedd am hyd at 3 blynedd wedi graddio (cysylltwch â alumni@rwcmd.ac.uk am ragor o wybodaeth)
- Aelodaeth o’r Llyfrgell am hyd at 3 blynedd wedi graddio (cysylltwch â library@rwcmd.ac.uk am ragor o wybodaeth)
- Disgowntiau yn y Swyddfa Docynnau
- Disgownt ar ofodau rihyrsal (cysylltwch â venues@rwcmd.ac.uk am ragor o wybodaeth)
- Disgowntiau ar aelodaeth ISM, Equity, Spotlight, Cymdeithas Rheolwyr Llwyfan
- Cysylltiad rheolaidd yn tynnu sylw at berfformiadau a digwyddiadau sydd i ddod, newyddion y cyn-fyfyrwyr, cyfleoedd am swyddi, lleoliadau a chystadlaethau
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig a sesiynau datblygiad proffesiynol