Mae Celfyddydau Cynhyrchu Pobl Ifanc (YPPA) yn cynnig cyfleoedd i archwilio meysydd Theatr Dechnegol, Rheoli Llwyfan a Chynllunio, ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed.
Mae ein cyrsiau a’n dosbarthiadau meistr yn rhoi cyfle i bobl ifanc creadigol gael mewnwelediad gwirioneddol i hyfforddiant ysgol ddrama a’r diwydiannau ‘cefn llwyfan’ ehangach. Cyflwynir dosbarthiadau arbenigol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, mewn sgiliau sy’n cynnwys goleuo, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, gwisgoedd a chynllunio set.
Cefnogir YPPA gan Bad Wolf.
Tymor yr Hydref
Yr hydref hwn rydyn ni'n dod atoch chi! Cysylltwch â yppa@rwcmd.ac.uk os hoffai eich ysgol neu goleg ymweliad gan diwtor YPPA i sgwrsio am bopeth ‘cefn llwyfan’.
Ymunwch â’n rhestr bostio i fod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pan fydd y broses archebu yn agor:
Tymor y Gwanwyn
Mae Tymor y Gwanwyn Celfyddydau Cynhyrchu Pobl Ifanc (YPPA) yn cynnwys diwrnodau blasu a chyrsiau byr sy’n rhoi cyfleoedd i archwilio meysydd Theatr Dechnegol, Rheoli Llwyfan a Chynllunio.
Bwriedir iddynt roi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ddatblygu ac archwilio ymhellach sgiliau ym meysydd arbenigol y diwydiant cefn llwyfan.
Ydych chi’n barod am brofiadau ymarferol? Drwy gydol pob dydd caiff y cyfranogwyr gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o rolau a sgiliau cefn llwyfan mewn cyfres o weithdai ymarferol gyda thiwtoriaid arbenigol sy’n weithwyr proffesiynol yn eu meysydd. Nid oes angen profiad blaenorol - dim ond diddordeb mewn bod yn greadigol, mwynhau gwneud pethau a’r parodrwydd i roi cynnig arni!
Y Pasg hwn mae gennym gyfleoedd gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhai o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd: Cynllunio Golygfeydd Theatr a Ffilm, Cynllunio Gwisgoedd, Celf a Dylunio, Darlunio, Gwneud Pypedau/Propiau, Ffasiwn, Cynllunio Goleuo, Cynllunio Sain neu Reoli Llwyfan.
Ysgolion Haf
Archwiliwch y sgiliau a’r prosesau sy’n rhan o waith timau cynhyrchu mewn prosiect trochi ar ein campws hardd yng Nghaerdydd.
Gan weithio gyda grŵp o diwtoriaid arbenigol byddwch yn dysgu sut i greu byd cynhyrchu yn un o’n dau lwybr arbenigol.
Wyneb yn wyneb ar y CBCDC campws Awst 2023
Addas ar gyfer rhai 11-18 oed
Llwybr Cynllunio ar gyfer Perfformio
Mae gweithdai yn cynnwys; datblygu cysyniadau cynllunio, gwneud propiau, celf golygfeydd, lluniadu technegol a sgiliau cyflwyno.
Llwybr Theatr Dechnegol
Mae gweithdai yn cynnwys; cynllunio a gweithredu goleuo, cynllunio sain, effeithiau arbennig a sgiliau rheoli llwyfan.
“Fe wnes i fwynhau’r ysgol haf yn fawr iawn a dysgais gymaint am yrfaoedd cefn llwyfan yn y theatr. Bydd y wybodaeth rydw i wedi ei chael yn fuddiol iawn yn y dyfodol. Roedd yr holl diwtoriaid yn gyfeillgar iawn ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym. Roedd y sesiynau’n rhai hwyliog a rhyngweithiol.”
Cyfranogwr yn yr Ysgol Haf
Sut i wneud Cais
Nid oes clyweliadau ar gyfer Dosbarthiadau Meistr neu Ysgolion Haf YPPA. Dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin a gellir eu harchebu drwy’r dudalen we hon.
Ffioedd a Chymorth Ariannol
Mae Celfyddydau Cynhyrchu Pobl Ifanc wedi ymrwymo i roi cyfle i bob person ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd â diddordeb brwd yn y theatr elwa gan hyfforddiant drama arbenigol wedi'i gyflwyno gan CBCDC, waeth beth fo’u profiad neu sefyllfa ariannol. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael neu unrhyw wybodaeth arall am gostau e-bostiwch ni yn yppa@rwcmd.ac.uk