Diploma Ôl-raddedig mewn Cyfansoddi

Diploma Ôl-raddedig mewn Cyfansoddi

Trosolwg o’r Cwrs

  • Hyfforddiant arbenigol mewn agweddau ar greadigrwydd
  • Gwersi tiwtorial a gweithdai cyfansoddi yn seiliedig ar sgiliau
  • Cyfleoedd i weithio ar y cyd â chyfansoddwyr proffesiynol yn y diwydiant
  • Dosbarthiadau uwch mewn perfformio a recordio, fel arfer gyda myfyrwyr o amryw o ddisgyblaethau cysylltiedig
  • Rhaglen lawn o berfformio, cyflwyno a chynhyrchu cerddoriaeth newydd
  • Hyfforddiant uwch yn y brif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol
  • Hyfforddi am ddatblygu gyrfa, hunan-hyrwyddo a thechneg gynaliadwy
  • Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
  • Rhaglen gwbl integredig o berfformiadau gan artistiaid rhyngwladol
  • Cyfleoedd i weithio ar offerynnau hanesyddol, gyda chefnogaeth dosbarthiadau a seminarau Perfformiad Gwybodus
  • Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Modiwl dewisol mewn dysgu seiliedig ar waith
  • Hyfforddiant dewisol mewn sgiliau addysgu uwch, allgymorth, recordio sain a rheolaeth yn y celfyddydau
  • Cyfle i greu a churadu prosiectau perfformiad eich hun
  • Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
  • Cyfleoedd astudio tramor mewn conservatoire sy’n bartner i ni drwy’r Rhaglen Gyfnewid ERASMUS

 

Strwythur y Cwrs

A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.

Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau ar gwrs ôl-raddedig dwy-flynedd, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.

  • Gwybodaeth Modiwlau

    Modiwlau Craidd

    Modiwl Credydau
    Cyfansoddi 1 40
    Cyfansoddi 2 40
    Y Cerddor Proffesiynol 20

     

    Modiwlau Dewisol (Dewiswch Un)

    Modiwl Credydau
    Sgiliau Addysgu Uwch 20
    Sgiliau Allgymorth Uwch 20
    Recordio Sain Uwch 20
    Rheoli Gyrfa 20
    Prosiect Creadigol 20
    Prosiect Unigol 20
    Clyweliad Cerddorfaol 20
    Portffolio o Gyfansoddiadau 20
    Portffolio o Drefniannau 20
    Prosiect Galwedigaethol 20

     

 

Gofynion Mynediad

Mynediad trwy gyfweliad a dylai ymgeiswyr arddangos lefel o allu sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Gofynnir i ymgeiswyr anfon enghreifftiau o’u gwaith creadigol i’w trafod mewn cyfweliad. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd israddedig mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall.

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.

 

Ffioedd Dysgu ar gyfer 2021-2022

Hyd y Cwrs Myfyrwyr Cartref (y DU) / Gweriniaeth Iwerddon Myfyrwyr Tramor Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
10 mis dwys £10,355 * £20,580 * £15,468 *
2 flynedd llawn amser £10,090 ** £20,155 ** £15,120 **

* Dyma’r swm llawn.

** Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.