MA Opera 360: Y Diwydiant Opera

MA Opera 360: Y Diwydiant Opera

I ddysgu mwy am gyrsiau byr Opera 360 a gradd meistr, cofrestrwch ar gyfer sesiwn flasu am ddim ar-lein ddydd Mercher 21 Mehefin rhwng 6 a 7pm. 

Trosolwg o’r Cynnwys

Cwrs digidol, unigryw a arweinir gan y diwydiant yw Opera 360, sy’n gwahodd y rheini sydd â diddordeb brwd mewn opera a gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau i gael gwybodaeth ddigyffelyb am waith tu ôl i lenni’r diwydiant opera. Mae’r cynnig hwn a addysgir ar-lein yn ymchwiliad manwl i arferion artistig a gweinyddol y diwydiant, gyda seminarau byw gan weithwyr nodedig ym maes opera.

'Pan fydd cynulleidfaoedd yn gweld ac yn gwrando ar opera, ychydig sy’n ymwybodol o’r holl waith sydd ei angen ar gyfer pob perfformiad ac mae dysgu am hyn drosoch eich hun yn rhywbeth newydd ac arbennig.'

Maestro Carlo Rizzi

 

Mae’r rhaglen hon yn hyblyg, gyda nifer o opsiynau astudio i gyd-fynd â’ch diddordebau:

  • Cyrsiau unigol 15 wythnos (yn cynnwys rhwng wyth a 10 awr yr wythnos - ar-lein)
  • Tri chwrs, yn arwain at dystysgrif i raddedigion
  • Chwe chwrs, sy’n arwain at ddiploma i raddedigion
  • Chwe chwrs, ynghyd â sgiliau ymchwil a phrosiect mawr i ennill gradd meistr.

Pa bynnag un y byddwch yn penderfynu arno, mae’r holl bynciau sy’n cael sylw yn ein rhaglen Opera 360 wedi cael eu sbarduno gan ymgynghoriadau ag arweinwyr y diwydiant.

Ar gyfer pwy mae Opera 360?

Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer gweithio yn y diwydiant, mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sydd â diddordeb brwd mewn opera, boed hynny er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc drwy lygaid gweithwyr yn y diwydiant, neu’r rheini sy’n dymuno cryfhau eu gwybodaeth fel rhan o’u datblygiad proffesiynol.

 

Pam astudio Opera 360?

  • Cyflwynir y cwrs yn gyfan gwbl ar-lein gan ganiatáu ar gyfer astudio hyblyg.
  • Mae’r holl gyrsiau wedi’u cynllunio gan weithwyr yn y diwydiant sydd â chyfoeth o brofiad heb ei ail.
  • Mae Opera 360 yn defnyddio rhwydwaith o bartneriaethau gyda chwmnïau a chymdeithasau opera blaenllaw. Bydd y seminarau yn rhoi llwyfannau i fyfyrwyr drafod materion pwysig gyda ffigurau blaenllaw ar draws y diwydiant.
  • Rhoddir darlithoedd gan arweinwyr yn y diwydiant opera, sy’n amrywio o uwch reolwyr i’r rheini sydd ar y llwyfan – rhaglen i’w chyhoeddi. • Mae Opera 360 yn cynnig cyfle unigryw i archwilio’r diwydiant opera o safbwynt byd-eang.
  • Mae cyfranogwyr yn cael cefnogaeth mentora ar-lein unigol.
  • Cynhelir Opera 360 ar y cyd ag Ysgol Opera David Seligman o fri.

 

'Mae Opera 360 yn rhoi mynediad breintiedig i chi tu ôl i lenni’r diwydiant opera, gyda’r cyfle i ddysgu’n uniongyrchol gan y rheini sy’n hynod brofiadol ac sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd gyda mewnwelediad uniongyrchol a hynod ddiddorol i sut mae’r farchnad yn gweithio, nid yn unig yn y DU ond ledled y byd.'

Abigail Fraser, Cyfranogwr sesiynau peilot

 

Sut caiff Opera 360 ei gyflwyno?

Cyflwynir pob cwrs yn ddigidol gyda chyfran fawr o ddarlithoedd byw, rhyngweithiol a sesiynau holi ac ateb gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant a phobl o fewn y byd opera. Rydym yn annog cyfranogwyr i fynychu’r sesiynau amser real er mwyn manteisio i’r eithaf ar y rhyngweithio ond mae hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd i gael mynediad at y cynnwys wedi’i recordio ar amser addas yn ddiweddarach gan sicrhau hygyrchedd i fyfyrwyr rhyngwladol a’r rheini sydd ag ymrwymiadau eraill.

Mae pob un o’r cyrsiau craidd yn werth 20 credyd ac yn cymryd 15 wythnos i’w cwblhau.

Gall myfyrwyr ddilyn cyrsiau byr manwl unigol heb wneud y radd gyfan, neu’n hytrach ddilyn clwstwr o gyrsiau gan arwain at Dystysgrif i Raddedigion (60 credyd), neu Ddiploma i Raddedigion (120 credyd). A fyddech cystal â nodi, ar gyfer y Ddiploma, bod angen dilyn o leiaf dau gwrs o bob un o’r clystyrau: Cerddoriaeth a Drama ac Arfer y Diwydiant.

Mae’r opsiynau hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i’r rheini sydd eisoes mewn cyflogaeth, efallai yn y diwydiant opera, i ddilyn cyrsiau penodol a allai fod yn arbennig o berthnasol i’w harfer presennol ac anghenion eu cyflogwr.

Bydd angen i fyfyrwyr y cwrs Meistr gwblhau chwe chwrs o’r clystyrau Cerddoriaeth a Drama ac Arfer y Diwydiant (o leiaf dau gwrs o bob un), ynghyd â’r modiwl Sgiliau Ymchwil 20 credyd a’r Prosiect Mawr 40 credyd.

Os nad oes digon o fyfyrwyr â diddordeb mewn modiwl penodol, efallai na chaiff ei gynnig. Os na chynhelir modiwl byddwn yn hysbysu myfyrwyr cyn gynted â phosibl ac yn eich cynorthwyo i ddewis modiwl arall.

Ar gael i’w astudio ym mlwyddyn academaidd 23/24.

  • Gwybodaeth am y Modiwlau

    Mae pob un o’r modiwlau craidd yn werth 20 credyd ac yn cymryd 15 wythnos i’w cwblhau.

    Gall myfyrwyr ddilyn modiwlau unigol heb wneud y radd gyfan, neu’n hytrach ddilyn clwstwr o fodiwlau gan arwain at Dystysgrif Gradd (60 credyd), neu Ddiploma Gradd (120 credyd). A fyddech cystal â nodi bod angen dilyn o leiaf dau fodiwl o bob un o’r clystyrau hyn ar gyfer y Ddiploma: Cerddoriaeth a Drama ac Arfer y Diwydiant.

    Mae’r opsiynau hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i’r rheini sydd eisoes mewn cyflogaeth, efallai yn y diwydiant opera, i ddilyn modiwlau penodol a allai fod yn arbennig o berthnasol i’w harfer presennol ac anghenion eu cyflogwr.

    Bydd angen i fyfyrwyr y cwrs Meistr gwblhau chwe modiwl o’r clystyrau Cerddoriaeth a Drama ac Arfer y Diwydiant (o leiaf dau fodiwl o bob un), ynghyd â’r modiwl Sgiliau Ymchwil 20 credyd a’r Prosiect Mawr 40 credyd.

    Os nad oes digon o fyfyrwyr â diddordeb mewn modiwl penodol, efallai na chaiff ei gynnig. Os na chynhelir modiwl rydym yn hysbysu myfyrwyr cyn gynted â phosibl ac yn eu cynorthwyo i ddewis modiwl arall.
     

    Arfer y Diwydiant

    Modiwl Credyd
    Arweinyddiaeth ym maes Opera (Cwrs yn dechrau 27 Medi 2023) 20
    Gweinyddu Opera (Cwrs yn dechrau 14 Chwefror 2024) 20
    System Tŷ (Cwrs yn dechrau 28 Medi 2023) 20
    Ysgrifennu ac opera* 20

    *Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau
     

    Cerddoriaeth a Drama

    Modiwl Credyd
    Cerddoriaeth Gyfoes mewn Theatr* 20
    Y Cyfarwyddwr* 20
    Yr Actor* 20
    Y Cynllunydd (Cwrs yn dechrau 15 Chwefror 2024) 20

    *Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau
     

    Modiwl Credyd
    Sgiliau Ymchwil* 20 (neu APL)
    Darllen Sgôr (dewisol)** 20
    Prosiect Mawr* 40

    *Dyddiad cychwyn i'w gadarnhau

    ** Mae’r modiwl dewisol wedi’i gynnwys ar gyfer y myfyrwyr hynny a fyddai’n hoffi gwella’r sgil hon.

     

    'Cyd-ddilynwyr opera; Mae Opera 360 yn gyfle hynod ddiddorol a phleserus i blymio’n ddwfn i fyd Opera rhyngwladol! Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y diwylliant Opera ac sy’n awyddus i ddysgu mwy am waith cymhleth marchnata, codi arian a rhaglennu drwy fodiwlau byr hyblyg.'

    Meriel Barclay, Cyfranogwr sesiynau peilot

Strwythur cwrs byr manwl

Bydd cwrs byr nodweddiadol yn rhannu’n fras yn dair adran: cyflwyniad, astudiaeth achos, trafodaeth. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno ar ddiwrnod penodol bob wythnos. Bydd y darlithoedd a’r seminarau ar-lein oddeutu 1.5 awr yr un ar y diwrnod hwnnw.

Byddem yn disgwyl rhywfaint o ddarllen a pharatoi ar gyfer dosbarthiadau bob wythnos, ond gan gynnwys mynychu darlithoedd a seminarau, mae’n debyg y bydd cyfanswm yr ymrwymiad rhwng 8 a 10 awr.

Bydd cyrsiau’n dechrau gyda darlithoedd a darlleniadau yn nodi cwmpas y testun i’w archwilio, ac yna cyfres o astudiaethau achos. Bydd y cyrsiau wedyn yn dod i benllanw gyda thrafodaethau panel a dadleuon beirniadol ar y pynciau a godwyd yn ystod y pymtheg wythnos.

Os nad oes digon o fyfyrwyr â diddordeb mewn cwrs, efallai y bydd yn rhaid i ni ei ganslo. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn eich helpu i ddewis cwrs arall.

Y pedwar cwrs byr a gynigir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 fydd:

 

Arweinyddiaeth ym maes

Bydd y cwrs byr hwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd y mae arweinwyr cwmnïau opera yn archwilio arferion arloesol mewn byd sy’n newid yn barhaus. Cewch ddarlithoedd gan arweinwyr rhagorol sydd wedi bod â rolau blaenllaw mewn cwmnïau opera gan gynnwys Metropolitan Opera, Efrog Newydd, yr Opera Brenhinol Covent Garden ac un o brif dai opera Ewrop.

Byddwch yn dysgu sut mae materion byd-eang megis hawliau dynol, argyfwng hinsawdd a thrafferthion economaidd yn effeithio ar y penderfyniadau y mae angen i arweinwyr o fewn byd opera eu gwneud, yn ogystal â chlywed cyflwyniadau gan y rheini sy’n ysgogi newid o fewn y diwydiant.

Mewn trafodaeth ddosbarth gyda phobl sydd wedi treulio llawer o’u bywydau yn gweithio yn y diwydiant, byddwch yn archwilio’n fanylach sut mae arweinwyr opera yn llywio drwy faterion cymhleth - yn amrywio o sut i gadw’r ffurf gelfyddydol yn ddiwylliannol berthnasol i ragweld newid mewn chwaeth cynulleidfaoedd i gadw’n gyfredol â datblygiadau technolegol.

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu safbwynt beirniadol uwch ar ddadleuon cyfoes ym myd opera. 

Dyddiad y mae’r cwrs yn cychwyn: 27 Medi 2023 (Ar-lein)

Darlithoedd: Bob bore Mercher, ac eithrio 13 Rhagfyr 2023; 20 Rhagfyr 2023; 27 Rhagfyr 2023; 3 Ionawr 2024
Seminarau: Bob prynhawn Mercher, ac eithrio 13 Rhagfyr 2023; 20 Rhagfyr 2023; 27 Rhagfyr 2023; 3 Ionawr 2024

 

System Dai

Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r nifer o ffyrdd y mae gwahanol dai rhyngwladol wedi siapio hanes opera. Byddwch yn clywed gan uwch arweinwyr mewn rhai o dai opera mwyaf blaenllaw’r byd, megis Opera Gwladwriaethol Fienna, Metropolitan Opera, Deutsche Oper a’r Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden, a fydd yn rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r hyn sy’n llywio rhaglennu a modelau gweithredol y sefydliadau eiconig hyn.

Trwy drafodaethau dosbarth a dadansoddi gydag ystod o arbenigwyr sydd wedi treulio eu bywydau yn gweithio gyda’r ffurf gelfyddydol, gan gynnwys y rheini sy’n datblygu dulliau newydd arloesol heddiw, byddwch yn cael golwg ar amrywiaeth arferion opera ar draws y byd ar hyn o bryd, a thrwy gydol hanes opera.

Yna byddwch yn defnyddio’r wybodaeth hon i ystyried dyfodol y ffurf gelfyddydol, a sut y gall gwaith oroesi a ffynnu i ganol yr unfed ganrif ar hugain.

Dyddiad y mae’r cwrs yn cychwyn: 28 Medi 2023 (Ar-lein)

Darlithoedd: Bob bore Mercher, ac eithrio 14 Rhagfyr 2023; 21 Rhagfyr 2023; 28 Rhagfyr 2023; 4 Ionawr 2024
Seminarau: Bob prynhawn dydd Iau, ac eithrio 14 Rhagfyr 2023; 21 Rhagfyr 2023; 28 Rhagfyr 2023; 4 Ionawr 2024


Cynhyrchu Opera

Bydd y cwrs byr hwn yn edrych yn fanwl ar y gwahanol rolau mewn cwmni opera, ar y llwyfan ac oddi arno, gydag astudiaethau achos a chyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol presennol yn y maes.

Bydd y cwrs hefyd yn archwilio’r sgiliau, yr heriau a’r llwybrau gyrfa sy’n unigryw i’r rolau hyn o fewn y byd opera, fel eich bod naill ai mewn gwell sefyllfa i symud yn syth i’r amgylchedd proffesiynol hwnnw neu’n deall yn llawer mwy manwl sut y caiff y cynyrchiadau eu creu.

Cewch weld sut mae’r haenau amrywiol o reolaeth yn cydweithio i ddod â chynyrchiadau i’r llwyfan a chewch eich tywys ar daith gronolegol fanwl drwy greu cynhyrchiad.

Dyddiad y mae’r cwrs yn cychwyn: 14 Chwefror 2024 (Ar-lein)

Darlithoedd: Bob bore Mercher, ac eithrio 3 Ebrill 2024, 10 Ebrill 2024 ac 17 Ebrill 2024
Seminarau: Bob prynhawn Mercher, ac eithrio 3 Ebrill 2024; 10 Ebrill 2024 ac 17 Ebrill 2024
 

Y Cynllunydd

Bydd y cwrs byr hwn yn canolbwyntio ar waith cynllunwyr, o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes. Arweinir y cwrs gan gynllunwyr a fydd yn dangos sut mae eu gwaith yn ffitio i’r broses gynhyrchu, a sut mae’r prosesau hynny’n wahanol mewn gwahanol dai opera.

Rhoddir safbwynt hanesyddol hefyd fel y gall myfyrwyr weld sut mae’r rôl wedi datblygu dros amser. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn edrych ar astudiaethau achos i archwilio sut mae cyflwyno technolegau mwy newydd yn newid y ffyrdd y gellir cyflwyno opera.

Dyddiad y mae’r cwrs yn cychwyn: 15 Chwefror 2024 (Ar-lein)

Darlithoedd: Bob bore Mercher, ac eithrio 4 Ebrill 2024; 11 Ebrill 2024 ac 18 Ebrill 2024
Seminarau: Bob prynhawn dydd Iau, ac eithrio 4 Ebrill 2024; 11 Ebrill 2024 ac 18 Ebrill 2024

Dadlwythwch drosolwg manwl o’r cwrs hwn (PDF)

 

Gofynion Mynediad

Mae’r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen Meistr yn cynnwys gradd 2:2 mewn unrhyw bwnc. Mae’r Coleg hefyd yn ystyried ceisiadau gan bobl sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant opera, sydd fel arfer ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol. Ar gyfer y rheini sydd ddim yn y diwydiant, rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad proffesiynol cyfatebol.

Disgwylir i bob ymgeisydd, gan gynnwys y rheini sy’n dymuno astudio cwrs byr, allu dangos dealltwriaeth dda o faes opera.

Gwneir y dewis terfynol ar gyfer y rhaglen Meistr lawn a’r cwrs byr ar sail cyfweliad.

E-bostiwch admissions@rwcmd.ac.uk os ydych angen rhagor o wybodaeth.

I gael gwybodaeth am sut i wneud cais dilynwch y ddolen hon.

 

Ymgeiswyr tramor yn astudio ar gyfer y rhaglen Meistr

Cyrsiau byr Opera 360

Nid oes gofyniad iaith Saesneg ar gyfer cwrs Opera 360 ar ei ben ei hun.

 

MA Opera 360

Ar gyfer y rheini sy’n astudio cyrsiau byr unigol, bydd disgwyl i chi allu dangos dealltwriaeth dda o opera. Dewisir y cyrsiau byr ar sail cyfweliad ar-lein anffurfiol.

Bydd angen i ymgeiswyr tramor nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu o ran Saesneg yn bodloni safonau gofynnol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Saesneg i gael manylion profion Saesneg a dderbynnir a’r sgoriau sydd eu hangen.

 

Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024

Hyd y Cwrs Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw Myfyrwyr Tramor
Rhaglen Meistr llawn amser £9,500  £9,500 
Cwrs byr manwl £1,250 £1,250

Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.

Darllenwch fwy