Trosolwg o’r Cwrs
- Hyfforddiant un i un arbenigol gan répétiteurs a hyfforddwyr nodedig
- Cyfleoedd i arsylwi répétiteurs proffesiynol mewn rihyrsal yn WNO
- Cyfnod o leoliad yn un o brif dai opera y DU
- Astudiaeth a pharatoad manwl o repertoire craidd sylweddol
- Cyfleoedd i chwarae ar gyfer nifer o gynyrchiadau opera a golygfeydd opera’r Coleg bob blwyddyn
- Hyfforddiant, a chyfleoedd i gyfeilio, mewn perfformiadau a rihyrsals llais, megis y rheini gyda Chorws Coleg a Chôr Siambr CBCDC
- Cyfleoedd i chwarae mewn dosbarthiadau iaith, sesiynau hyfforddiant lleisiol a dosbarthiadau meistr
- Hyfforddiant mewn datblygu sgiliau hyfforddi, paratoi corawl ac arwain
- Profiad o sesiwn clyweliadau a gwaith sy’n cyfateb i un broffesiynol
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen drwy’r cwrs, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo yn yr holl fodiwlau ac ennill 140 o gredydau.
-
Gwybodaeth Modiwlau
Rhan Un
Modiwl Credydau Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 1 20 Sgiliau Répétiteur 1 20 Perfformiad Opera (Répétiteur) 1 40 Rhan Dau
Modiwl Credydau Sgiliau Répétiteur 2 20 Lleoliad Proffesiynol (Répétiteur) 20 Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 2 20
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth, er y gall y Coleg ystyried ceisiadau gan bobl heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu, profiad ymarferol, a dealltwriaeth dda o’r proffesiwn opera.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
2 flynedd llawn amser | £11,830 * | £23,280 * |
* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.