Cawsom air gyda rhai o’n cyn-fyfyrwyr er mwyn cael clywed am y gwahanol gyfeiriadau y mae eu gyrfaoedd wedi eu harwain ers iddynt raddio o CBCDC.
Chanáe Curtis
Astudiodd y soprano o America Chanáe Curtis yn Ysgol Gerdd Manhattan cyn graddio ar y rhaglen MA Perfformio Opera Uwch yn CBCDC. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys perfformio ar gyfer EUB Tywysog Cymru ym Mhalas Buckingham; gyda Cherddorfa Hallé; a rôl Anna Gomez yn The Consul gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Yn 2019, perfformiodd Chanáe am y tro cyntaf gydag Metropolitan Opera Efrog Newydd yn chwarae rôl Annie yn Porgy & Bess.
Alis Huws
Ychydig cyn graddio o CBCDC penodwyd Alis Huws yn Delynores Swyddogol newydd EUB Tywysog Cymru. Mae Alis hefyd wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru yn Japan a ledled Ewrop a hi yw Cydlynydd Ieuenctid Cyngres Telynau’r Byd 2022, a gynhelir yng Nghaerdydd.
Joanne Higginbottom
Cwblhaodd Joanne Higginbottom interniaeth gyda Tyler Bates yn Los Angeles ym mlwyddyn olaf ei hastudiaethau. Ar ôl graddio, aeth Joanne i weithio i Tyler ac ers hynny mae wedi cyd-gyfansoddi ar gyfer The Public (Emilio Estevez); cyd-gynhyrchu sgôr ar gyfer The Spy Who Dumped Me; a darparu cerddoriaeth ychwanegol ar gyfer Fast & Furious Presents: Hobbs & Shaw, Guardians of the Galaxy 1 & 2 a Deadpool 2.
Tianyi Lu
Mae Tianyi Lu yn gwneud enw iddi’i hun ar draws y cyfandiroedd fel Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Melbourne, Cymrawd Dudamel gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles ac Arweinydd Benywaidd Cyswllt Preswyl gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Ollie Howell
Ers cwblhau ei radd BMus yn CBCDC, mae’r drymiwr Ollie Howell wedi sefydlu ei hun fel cyfansoddwr ar gyfer ffilm a theledu, aml-offerynnwr a chynhyrchydd. Mae wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau gwobrwyedig a chyfresi teledu rhyngwladol ac mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn gwyliau ffilm ledled y byd. Mae Ollie hefyd wedi rhyddhau dau albwm jazz ac wedi teithio’r byd, a’i ganmol gan y beirniaid. Mae Ollie, sy’n cael ei arwain gan Quincy Jones, y gwnaeth berfformio gyntaf iddo yn CBCDC, hefyd yn Llysgennad ar gyfer elusen Youth Music.
Justina Gringyte
Cwblhaodd Justina ei hastudiaethau MMus yn CBCDC cyn mynd ymlaen i astudio yn y Stiwdio Opera Genedlaethol. Mae wedi perfformio mewn tai opera ledled y byd, gan atgyfodi rôl Carmen a derbyn canmoliaeth y beirniaid. Bydd Justina hefyd yn perfformio’n rheolaidd gyda Theatr Bolshoi yn Moscow lle mae ei pherfformiadau yn cynnwys Maddalena yn Rigoletto a Marguerite yn La damnation de Faust. Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys rolau gydag Opera Cenedlaethol Corea, Scottish Opera ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â pherfformiadau cyngerdd yn Neuadd Wigmore a gyda CBSO ym Mhroms y BBC.
Grant Jameson
Mae Grant Jameson, y chwaraewr ewffoniwm a anwyd yn America, yn aelod o sawl band pres gan gynnwys Tredegar a Flowers a hefyd wedi ymddangos fel unawdydd gyda bandiau Cory, Fodens a Grimethorpe. Mae Grant yn Artist Perfformio Besson ac ef hefyd yw Cyfarwyddwr Cerdd Band Severn Tunnel. Bydd yn perfformio gyda’i bedwarawd ewffoniwm, Eu4ia, yn trefnu gweithiau newydd ar gyfer yr ewffoniwm ac yn gwneud gwaith allgymorth fel Yeoman of The Musicians’ Company.
Trystan Griffiths
Astudiodd y tenor o Gymro Trystan Griffiths ar y cwrs MA Perfformio Opera Uwch yn CBCDC, cyn cwblhau ei hyfforddiant yn y Stiwdio Opera Genedlaethol. Gwnaeth ei berfformiad opera proffesiynol cyntaf yn 2015 gyda rôl Ferrando yng nghynhyrchiad teithiol Scottish Opera o Cosi fan tutte ac ers hynny mae wedi perfformio mewn cynyrchiadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Opera North, Opéra National de Lorraine ac Opera Zürich. Mae wedi perfformio gydag artistiaid sy’n cynnwys Katherine Jenkins a Syr Bryn Terfel a gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol.
Edward-Rhys Harry
Ers iddo raddio, mae Edward-Rhys Harry wedi mynd ymlaen i arwain a chyfansoddi ar gyfer corau ac offerynwyr ledled y byd. Ar hyn o bryd ef yw Arweinydd Preswyl Cerddorfa Sinfonietta Prydain, mae wedi gweithio gyda chorws Opera Cenedlaethol Cymru drwy raglen gymunedol ac allgymorth y cwmni a bydd hefyd yn cyfarwyddo ‘The Harry Ensemble’, côr penodol ar gyfer perfformio a hyrwyddo cerddoriaeth gorawl Prydain dramor. Yn 2019, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Dave Danford
Mae Dave Danford yn gweithio ledled y DU a thramor, yn chwarae offerynnau taro mewn cyngherddau ar gyfer Alfie Boe, Evelyn Glennie, Karl Jenkins, Bryn Terfel a Russell Watson ymhlith eraill. Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd proffesiynol, ar gyfer cynyrchiadau theatr y West End ac fel unawdydd ac mewn amrywiaeth o sesiynau recordio. Mae ei waith hefyd yn cynnwys cyfansoddi, trefnu a chynhyrchu cerddoriaeth fel contractiwr cerddorfaol sefydledig. Mae’n gyfrifol am reoli Cerddorfa Sinfonietta Prydain, y Cinematic Sinfonia a Cherddorfa Sesiwn Cymru.
Dawn Hardwick
Cwblhaodd Dawn Hardwick, pianydd unawdol, siambr, cerddorfaol a chyfoes sydd wedi’i lleoli yn Llundain, ei hastudiaethau BMus yn CBCDC. Erbyn hyn mae’n aelod-gyfarwyddwr o’r ensemble chwe phiano, Piano Circus, sy’n flaengar mewn comisiynu a pherfformio gweithiau newydd ar gyfer aml-biano. Mae Dawn wedi gweithio gyda cherddorfeydd sy’n cynnwys Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Mae ganddi brofiad helaeth fel unawdydd, yn fwyaf diweddar yn perfformio concerto dwbl John Psathas View From Olympus ar gyfer piano wedi’i chwyddseinio ac offerynnau taro gyda’r Fonesig Evelyn Glennie.
Joel Garthwaite
Ar ôl cwblhau ei radd BMus yn CBCDC aeth y sacsoffonydd Joel Garthwaite ymlaen i astudio ar gyfer ôl-radd yn y Guildhall School of Music and Drama. Mae ei waith perfformio wedi’i ganoli ar Bedwarawd Sacsoffon Lunar, a ffurfiwyd yn CBCDC. Mae ei yrfa hefyd yn cynnwys cyflwyno seminarau a rheoli digwyddiadau. Mae’n Ymgynghorydd Datblygiad Proffesiynol ar gyfer yr Incorporated Society of Musicians (ISM), ac yn Sylfaenydd a Chyd-gyfarwyddwr Bright Ivy Artist Management. Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Marchnata a Busnes Newydd yn Invicomm.
Toks Dada
Tra’n astudio’r fiola ar gyfer ei radd yn CBCDC datblygodd Toks Dada ddiddordeb mewn rheolaeth yn y celfyddydau a sefydlodd yr ensemble cerddoriaeth gyfoes lwyddiannus Sinfonia Newydd. Aeth ymlaen i gwblhau MA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC ac erbyn hyn mae’n Rheolwr y Rhaglen Glasurol yn Neuadd y Dref a Neuadd Symffoni Birmingham. Mae Toks hefyd yn llefarydd dros amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y proffesiwn cerddoriaeth ac mae’n Gyfarwyddwr Bwrdd Opera Cenedlaethol Cymru, Cyfarwyddwr Bwrdd Anthem (cronfa gerddoriaeth sy’n cefnogi pobl ifanc yng Nghymru), Cynghorydd yn Sefydliad PRS for Music ac yn Gymrawd 2020 y Gymdeithas Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol.
Tic Ashfield-Fox
Mae Tic Ashfield yn gyfansoddwr a chynllunydd sain ac enillydd gwobr BAFTA Cymru a gwblhaodd ei hastudiaethau BMus ac MMus yn CBCDC. Mae ei gwaith yn rhychwantu meysydd drama a rhaglenni dogfen teledu, prosiectau animeiddio, theatr a chydweithrediadau dawns. Mae Tic hefyd yn aelod tîm creadigol yn John Hardy Music a Winding Snake Productions.
Adam Cross
Aml-offerynnwr yw Adam Cross sy’n gweithio’n eang gyda’r Royal Shakespeare Company ac fel cerddor sesiwn ar gyfer rhaglenni radio a theledu a ffilmiau. Ymhlith uchafbwyntiau Adam mae cyfrannu cerddoriaeth at y ffilm fer Marfa a enwebwyd am wobr BAFTA a chyd-ysgrifennu cerddoriaeth a chaneuon ar gyfer y ddrama Busking It.
David Doidge
Astudiodd David Doidge y piano fel myfyriwr gradd yn CBCDC cyn arbenigo fel répétiteur ar lefel ôl-radd. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau daeth yn aelod llawn amser o’r staff cerddoriaeth yn Opera Cenedlaethol Cymru ac erbyn hyn ef yw Côr-feistr y cwmni. Mae David wedi cyfeilio i gantorion blaenllaw sy’n cynnwys Syr Bryn Terfel, Rebecca Evans ac Alfie Boe.
Helen Nash
Mae Helen Nash wedi bod yn mwynhau llwyddiant rhyngwladol fel chwaraewr soddgrwth a phianydd. Roedd hi’n aelod o’r pedwarawd llinynnol electrig blaenllaw, Escala, gan berfformio gyda Sam Smith a Pink Floyd. Fel pianydd mae wedi perfformio gyda Pink, Nicole Scherzinger, Jessie J ac Olly Murs, ac mae wedi ymddangos ar rai o sioeau teledu mwyaf poblogaidd y DU yn cynnwys The Graham Norton Show, The X Factor a Strictly Come Dancing.
Mark David Boden
Cyhoeddir gwaith Mark gan Cadenza Music ac mae wedi’i gomisiynu gan amrywiaeth o ensembles yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Côr Bath Abbey a Sinfonia Cymru. Mae nifer o’i weithiau wedi’u darlledu ar BBC Radio 3 yn cynnwys perfformiadau diweddar ei concerto i’r clarinét, a gomisiynwyd gan BBC NOW fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y gerddorfa’n 90 oed. Gwnaed Mark yn Aelod Cyswllt CBCDC yn 2018.
Nathan Stone
Nathan yw’r chwaraewr soddgrwth gyda Phedwarawd Llinynnol Vulcan. Mae’r pedwarawd wedi recordio gyda dros 100 o artistiaid yn fyd-eang ac mae wedi ymddangos ar nifer o albymau.
Matthew Williams
Astudiodd Matthew Williams am ei radd BMus yn CBCDC ac fel myfyriwr ôl-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Mae wedi ymddangos fel prif drympedwr gyda nifer o brif gerddorfeydd y DU gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Symffoni y BBC, Cerddorfa’r Ffilharmonia a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol.